Lleoliad:
Fideo Gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 16 Gorffennaf 2020
Amser:
09.05 -
12.50
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6361
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Jayne Bryant AS Angela Burns AS Lynne Neagle AS David Rees AS |
Tystion: |
Vaughan Gething AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dr Andrew Goodall, Llywodraeth Cymru Albert Heaney, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Sarah Beasley (Clerc) Claire Morris (Ail Glerc) Lowri Jones (Dirprwy Glerc) Dr Paul Worthington (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
2 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a Chyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Chyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru.
2.2 Cytunodd Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru i roi nodyn i'r Pwyllgor yn rhoi enghreifftiau o fewn llwybr gofal llygaid o weithgareddau a newidiadau sy'n digwydd ledled Cymru i fynd i’r afael â'r ôl-groniad yn y galw am wasanaethau a'r cleifion newydd sy’n dod i mewn i'r system.
3 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a Chyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru (parhad)
3.1 Parhaodd y Pwyllgor â’i sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Chyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y Cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw.
5 COVID-19: Trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
6 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol: ystyried y dull gweithredu
6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull gweithredu o ran ystyried y Memorandwm. Bydd hyn yn cynnwys cyhoeddi galwad am dystiolaeth ysgrifenedig dros doriad yr haf ac ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am wybodaeth bellach am nifer o bwyntiau.